Search

Antur fawr Tesni!

Roeddwn i ar yr awyren pan welais Mynydd Kilimanjaro am y tro cyntaf! Am gawr o fynydd, yn pigo trwy’r cymylau gwyn; roedd yn enfawr! Roedd fy nerfau yn ddigon gwael yn barod; ond wrth weld y copa trwy’r cymylau, roeddwn yn teimlo’n llawer gwaeth! O fy mlaen, roedd wyth diwrnod o gerdded un o fynyddoedd mwyaf yn y Byd! Roeddwn yn llawn cyffro, ac yn nerfus ar yr un pryd!


Ar ôl aros yn y gwesty am noson, roeddwn ar bigau drain i ddechrau’r daith. Wrth ystyried yr amgylchiadau, roedd y diwrnod cyntaf yn un hollbwysig. Roedd rhaid i mi brofi fy mod i yn gallu delio gyda’r diwrnodau hir. Ar y diwrnod cyntaf roeddwn yn cerdded trwy’r jyngl. Roeddwn yn gallu clywed sŵn y mwncïod trwy’r amser. Erbyn yr ail ddiwrnod roeddwn wedi dechrau cyrraedd tir uwch, ac roedd hyn yn fwy anodd i gerdded; i wneud pethau’n waeth, roedd gen i fola tost hefyd! Heblaw am y diwrnod pan gyrhaeddon ni’r copa, dyma oedd y diwrnod anoddach, doeddwn i methu aros i’r diwrnod ddod i ben! Ond pan gyrhaeddon y gwersyll, roeddwn wrth fy modd: yn falch i mi oroesi diwrnod mor anodd. Cysgais yn dda hefyd.


Trwy lwc a bendith (achos roedd fy mol dal yn boenus), diwrnod i orffwys oedd y trydydd diwrnod. I godi fy hwyliau, ac i fy ysgogi i gadw’i fynd, gwrandawais ar lawer o gerddoriaeth. Help mawr! Ar y diwrnod yma, hefyd, gwelais i’r mynydd o’r ddaear: roeddwn methu coelio fy llygaid- roedd yn anferth, ac yn edrych yn bell iawn! Hefyd, fe welais i’r Tyrrau Larfa, dyma olygfa anghredadwy gyda’r tyrrau uchel iawn o larfa! (Ar y daith, fe fues i’n ffodus iawn i weld losgfynyddoedd, clogfeini, a’r tyrrau yma). Ar ben pob dim, roedd rhaid i mi wynebi y Wal Baranco, sef darn o’r mynydd lle mae rhaid defnyddio’r dwylo, sydd yn llawer o hwyl. O gopa’r Baranco, mae yna olygfa hyfryd o Moshi, a Mynydd Meru.


Diwrnod cyffredinol o gerdded oedd y diwrnod nesaf, ac ar ôl hynny, Diwrnod y Copa! Ar y diwrnod hynny, dechreuon gerdded am 4 o’r gloch y bore er mwyn osgoi llosgi yn yr haul cryf. Roedd rhaid gwisgo sbectol haul ac roeddwn wedi fy nallu gan adlewyrchiad yr haul ar yr eira. Roedd fy nhraed yn rhewi! Ar yr amser yma o’r dydd, roedd y sêr yn rhyfeddol, ac yn teimlo fel petaent mor agos i ni ar y ddaear. Yna, daeth yr haul, yn dringo’i fyny, ac yn pipio dros Mawenzi, copa’r llosgfynydd ar Kilimanjaro. Ar y gwthiad olaf, gwelais y rhewlifau, a’r craterau- ni allwn i gredu maint y rhain! Yna, a dyma ni, o’r diwedd, rhedais i’r copa! Nid oes geiriau i ddisgrifio’r teimlad o gyrraedd y copa yma.


Roedd yr holl ymdrech, yr holl baratoadau cyn teithio i Affrica, roedd pob dim werth pob eiliad, wrth sefyll yna, ger arwydd enwog y mynydd anhygoel, arbennig yma, yr uchaf yn Affrica. Roeddwn i mor falch o fy nghyflawniad unigryw, ac rwy’n ymwybodol nad oes lawer o bobl fy oedran i yn gallu dweud yr un peth. Yn bendant, dyma oedd profiad gorau yn fy mywyd. Hyd yn hyn!





© 2023 by The Artifact. Proudly created with Wix.com

This site was designed with the
.com
website builder. Create your website today.
Start Now