
Bydd angen:
Tun fflat 30 x 23 cm (12 x 19 modfedd)
450g (1 pwys) afalau coginio
sudd ½ lemwn
350g (12 owns) blawd codi
2 lwy de powdr codi
350g (12 owns) siwgr mân
4 wy mawr
1 llwy de rhonflas almon
225g (8 owns) menyn wedi toddi
Taenellwch almonau wedi eu rhwygo, malu neu eu torri ar ben y teisennau
Siwgr mân i daenellu
Dull:
Cam 1:
Cynheswch y ffwrn i 180C / F160 / Gas 4.
Irwch y tun ac yna rhowch bapur pobi ar ei waelod
Cam 2:
Tynnwch calon yr afal, pliciwch a thorrwch yr afalau yn denau ac yna tywalltwch y sudd lemwn drostynt. Pwyswch y blawd, powdr codi a’r siwgr a’u rhoi mewn powlen fawr. Curwch yr wyau gyda’r rhonflas almon ac ychwanegwch at y blawd ynghyd â’r menyn wedi toddi. Chwisgwch ac yna rhowch hanner y cymysgedd yn y tun. Rhowch yr afalau ar ben y cymysgedd. Yna ychwanegwch weddill y cymysgedd – peidiwch â phoeni os oes modd gweld ychydig o’r afalau. Taenellwch yr almonau ar ben y cyfan.
Cam 3:
Pobwch am tua 1½ awr neu tan fydd y deisen yn lliw aur, yn galed wrth i chi ei gyffwrdd ac wedi dechrau dod oddiwrth ochrau’r tun. Gadewch i oeri am 15 munud ac yna trowch allan. Taenellwch y siwgr mân drosto a bwytwch yn gynnes gyda hufen neu fromage frais.