
Dyma enw tlws dros ben. Ond beth mae’n olygu?
Mae dau ystyr i’r gair Bettws – neu, yn hytrach, mae’n ddau air gwahanol:
1. gair Cymraeg yn golygu celli o fedw bychain (grove of small birch trees) ac sy’n gysylltiedig â’r geiriau bedw, bedwen.
2. gair sy’n golygu tŷ gweddi neu gapel. Mae’r gair hwn yn tarddu o’r hen eiriau Saesneg, bede ahus. Ystyr bede yw gweddi ac mae yn cael ei ddefnyddio yn yr ymadrodd cyfrif paderau – to tell beads. Hen ffurf ar house yw hus.
Erbyn hyn stâd o dai ger Malpas yw Bettws, ond heb fod yn hir yn ôl, roedd yn ardal wledig dawel gyda chapel bach wedi ei gysegru i Ddewi Sant. Felly Bettws yn yr ail ystyr o dŷ gweddi yw Bettws Casnewydd.
Fe welir y gair hefyd yn yr ymadrodd: y byd a’r bettws.
Golyga’r ymadrodd pawb, hynny yw:
pawb sy’n byw ac yn gweithio yn y byd– y bobl lleyg (lay people) a
phawb sy’n rhan o’r bettws(eglwys) – y clerigwyr.
Mae sawl enghraifft o’r gair huswedi newid i -ws yn Gymraeg:
becws – bake-house
wyrcws – work-house
byncws* – bunk-house
weinws – wain-house**
warws - warehouse
* Fe welwch y gair byncws ar arwydd ar ffordd A4077 rhwng Gilwern a Chruc-hywel.
**Hen air am gert neu wagon yw wain.