
Wel! MAENDY, MAINDEE, MAINDY! Pa un sy’n gywir?
Os ewch i Gwmbran fe welwch Maendy.
Os ewch i Gaerdydd fe welwch Maindy.
Os ewch i Gasnewydd fe welwch Maindee.
Pa un sy’n gywir?
Mae dwy sill a dwy elfen yn yr enw:
maen – stone
dŷ - tŷ – house
Felly, tŷ a adeiladwyd o garreg ydy’r ystyr, a’r sillafiad cywir ydy MAENDY.
Llongyfarchiadau gwresog i Gwmbran!