Search

Gŵyl Newydd 2018 – Gair o Ddiolch gan Jamie James


Beth sy’n well na threulio prynhawn heulog Mis Medi yn mwynhau perfformidadau, hwyl a sbri gŵyl newydd sbon iaith Gymraeg yng Nghasnewydd? Dim byd, mae’n siŵr, yn enwedig i’r siaradwyr - rhugl a newydd – yr iaith sydd eisiau dangos bod cymreictod, a’r iaith, yn ffynnu yn ein dinas ac yn y ardal leol. Gyda’r nod hwnnw felly, mae Fforwm Iaith Gymraeg Casnewydd wedi penderfynu, yn 2017, y byddai gŵyl iaith Gymraeg yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yng Nghasnewydd.


Roedd yn fraint i mi bod yn gadeirydd y pwyllgor gwaith, ond mae’n hanfodol i mi gyfaddef o’r cychwyn cyntaf, bod y baich wedi cael ei ysgwyddo gan grŵp brwdfrydig iawn o bobl o bob rhan o’r gymuned, na fyddai’r ŵyl wedi bod yn bosibl hebddynt. I’r bobl hynny, mae trefniadau wedi dechrau misoedd yn ôl gan drefnu holiadur i bobl yr ardal ddweud eu dweud ynghylch strwythur, lleoliad a (rhywbeth hollbwysig) enw ein gŵyl. Mae rhaid i mi ddiolch i bawb sydd wedi mynegi barn ac i’r plant hefyd sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer yr ŵyl. Roedd yn bwysig dros ben mai gŵyl gymunedol y byddai Gŵyl Newydd, ac mae pob rhan o’r gymuned wedi gweithio mor galed i sicrhau y byddai’r ŵyl yn llwyddo.


Ar ôl oriau o waith gan y pwyllgor, ac ar y diwrnod ei hun, mae hyd yn oed yr haul wedi chwarae rhan bwysig gan wennu trwy’r prynhawn (bron!) ac roedd perfformwyr, stondinwyr, actorion, dawnswyr a’r cyhoedd wedi dod at ei gilydd yn llu yn Llŷs Malpas i fwynhau diwylliant, a dathliad, iaith Gymraeg, fel uchafbwynt nifer o ddigwyddiadau trwy’r wythnos o 10-15 Medi 2018. Roedd rhywbeth at ddant pawb yn ystod yr ŵyl; cyflwyniadau a sgyrsiau hanes a diwylliant yr ardal, taith gerdded, sioeau drama, canu, balŵns, mwy o ganu, gwybodaeth am wasanaethau iaith Gymraeg yn yr ardal a....mwy o ganu (chwarae teg - gŵyl iaith a diwylliant Cymraeg a Chymreig oedd hi, wedi’r cyfan!).

Wrth fyfyrio ar elfennau mwyaf nodedig yr ŵyl (ac roedd llawer iawn i feddwl amdano, mae’n sicr!), mae rhai pethau yn dod i’r meddwl, hoffwn i danlinelli yn yr erthygl hon. Yn gyntaf, mae rhaid tynnu sylw at yr hyn sy’n bosibl pan mae pobl yn cydweithio. Yn ddyddiol, pan rwy’n gweithio yn y brifysgol, neu pan rwy’n siarad gyda ffrindiau a theulu, rwy’n atgoffa pawb o bwysigrwydd gweithio ar y cyd. Does dim byd yn bosibl heb i ni weithio fel partneriaid, ond trwy gydweithio, mae pethau mawr, fel Gŵyl Newydd, yn bosibl, ac yn sicr i lwyddo. Dim ond misoedd – nid blynyddoedd - oedd gennym i drefnu’r ŵyl, ac ar y diwrnod mawr, mae mwy na 400 o bobl wedi dod i Lŷs Malpas i fwynhau’r dathliad. Roedd y nifer hwn yn fwy na fyddai unrhyw un ohonom ar y pwyllgor gwaith wedi disgwyl am y tro cyntaf.


Mae haelioni’r pwyllgor gwaith a’r rhanddeiliaid sydd wedi rhoi eu hamser, ei sgiliau a’u harian i’r ŵyl yn bwysig hefyd. Hoffwn sôn yn arbennig am gymorth Menter Iaith Casnewydd a Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, Coleg Gwent, Urdd Gobaith Cymru, holl ysgolion yr ardal– plant, athrawon a rhieni – ac am gymorth gwirfoddolwyr Casnewydd.


Yn drydydd, hoffwn dynnu sylw hefyd at y nifer o bobl sy’n dysgu’r iaith, neu sy ddim yn siarad y Gymraeg, sydd wedi cyfrannu at yr ŵyl. Mae rhaid i ni i gyd gofio am yr dewrder sydd eisiau ar bobl llai hyderus eu Cymraeg, iddynt gymryd rhan mewn digwyddiad cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn fwy hanfodol fyth oedd hi, felly, mai gŵyl gynhwysol oedd Gŵyl Newydd.


Yr hyn sy’n cysylltu holl lwyddiant yr ŵyl ydy pobl; pobl Casnewydd a’r ardal ehangach sydd wedi dangos bod llawer iawn o obaith i’r iaith yn ne ddwyrain Cymru, os rydym yn parhau i weithio ar y cyd i greu amgylchedd positif, lle mae’r iaith yn rhywbeth mae pawb yn gallu bod yn falch ohono. Ar ran y pwyllgor gwaith, diolch i’r holl bobl sydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw ffordd. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld y flwyddyn nesaf!


Jamie James

Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Newydd 2018

© 2023 by The Artifact. Proudly created with Wix.com

This site was designed with the
.com
website builder. Create your website today.
Start Now