Search

Gair Gwenhwyseg

Diolch yn fawr iawn i https://twitter.com/y_wenhwyseg am yr erthygl hon!


Gair Gwenhwyseg!


Dyma’r cyntaf o gyfres newydd o ȋra Cymræg. Y Wenhwyseg oedd y priodiaith yr ardal, ond mae e wedi bod ar ddirywiad araf ers yr oes Fictoria. Llafariæth y De-Dwyran yw’r gyflymaf a’r buraf o dafodieithau Cymru!


Byddwn ni’n dechra off gyda gair diddorol.

Perth. (ll. Perthi)

Yn ȏl geiriadur Pughe, ma ‘perth’ yn dod o ‘py’-’erth’ = thorny bush.

Nawr, ma ‘na lot o ȋra i wēd ‘r’un peth yn y Gymræg; llwyn, gwrych, a chlawdd.


Felly:

· Perth terfyn = perth yn cael ‘i ddefnyddio fel ffin = boundary hedge

· Perth fwari = mierinllwyn = blackberry bush

· Perth farw = perth sy ddim yn byw! = dead hedge

· Perth ymerth = perth ochr yn ochr = side-by-side hedge

· Perth ddrain = perth gyda llawer o bigau = thorny hedge

· Perth iorwg = perth eiddew = ivy bush

· Perthyn = perth bach = a small bush


a wedyn, ti’n gallu:

· Plygu perth = lay a hedge

· Bod yn blygwr perth = rhywun sy’n plygu perth! = a hedge layer

· Cael polyn perth = postyn i gadw’r perth mewn llinell syth = a stake used to keep the hedge straight

· Cael pys y berth = bush vetch

· Priodi drwy’r berth = i briodi rhywun arall yn y teulu = marry someone in the family

· Cael plant drwy’r berth = plant anghyfreithlon = illegitimate children

ac hefyd:

· Barnwr y berth (aderyn) = Blackcap (bird)

· Llwytan y berth (aderyn) = Hedge Sparrow (bird)



Ond, beth am yr arogl cryfach?


· Drys naw perth = i aroglu rhywbeth dros naw o gaeau i ffwrdd! = to the high heavens!

Ac, i rhywun gyda enw drwg:

· ma ‘i groen ar y berth


Chi’n gallu gweld rhywle ‘perthog’, sy’n lle â llawer o berthi!

Dyma rhywbeth o’r pedwerydd ganrif ar ddeg, o Fadawg Dwygraig:


“Trist i groesan egroesa perthi,

Nas parthai cardota;

Trist fu ei hyder o glera;

Trigwaeth nag y daeth yd a.”

(wedi’i gyfeithu:)


“It is woeful for a buffoon to be gathering hips from the brakes,

and that charity should not support him;

Woeful was his dependence on the circuit of minstrelsy;

Three times worse that what has been to him will he come to."


O stori yn y papur Tarian y Gweithiwr, o 5ed Hydref 1877. Mae e’n dod o stori am y bywyd y cadno.






Ac o fewn darn o farddoniaeth o’r 16eg Tachwedd 1877, ar gyfer y briodas Mr Gibson & Miss Jones (Aberdær)



Ac i gyrnoi. Ma ‘na ardal o Gasnewydd sy’n defnyddio Perth!

Ar Hewl Cas-Gwent, sha’r Celtic Manor yw Treberth.

Yn wreiddiol, oedd e’n ffermdy mawr ar y bryn rhwng Hewl Cas-Gwent, a Christchurch.

Nawr, ma e’n o dan tai yn Keir Hardie Crescent.

(map o 1877)

Ma Tre-berth yn dod o:

Tref = Cartrefle = “homestead” a

Perth = lot o berthi!






Gobeithio, oedd e’n defnyddiol a ddiddorol – a mwy i ddod y tro nesa!

Diolch yn fawr!

© 2023 by The Artifact. Proudly created with Wix.com

This site was designed with the
.com
website builder. Create your website today.
Start Now