1975 - 2020

Erbyn yr haf eleni, bydd Merched y Wawr Casnewydd a’r Cylch wedi bod yn cyfarfod ers 45 o flynyddoedd yn yr ardal. Rydyn ni’n perthyn i fudiad cenedlaethol sydd â 276 o Ganghennau a Chlybiau Gwawr ledled Cymru.
Merched sy’n frwdfrydig dros ein hiaith a’n diwylliant ydyn ni a byddwn yn trefnu digwyddiadau i hybu rhain yn rheolaidd. Rydyn ni’n mwynhau cymdeithasu, gwrando ar siaradwyr amrywiol, cymryd rhan mewn gweithdai celf a chrefft, mynd ar ymweliadau, mynd i’r theatr, bwyta allan, boreau coffi, bowlio deg, cadw’n heini, helpu elusennau, cymryd rhan mewn cwisiau, arwain sesiynau Sgwrs Sadwrn i ddysgwyr a helpu yn yr eisteddfodau cenedlaethol ac yn ffair Llanelwedd. Mae’r rhestr yn hirfaith!
Yn ystod eleni (ers Medi 2019), rydyn ni wedi
gwrando ar hoff gerddoriaeth ein haelodau,

dysgu am gawsau amrywiol ar draws y byd gan yr arbenigwraig Eurwen Richards,
gwylio hen fideos am hanes yr ardal,
ymuno â’r Gymdeithas Gymraeg ac aelodau Mynydd Seion i ganu carolau gyda chyfeiliant Band Pres Casnewydd
noson o gadw’n heini’n gorfforol a meddyliol i ddechrau’r flwyddyn newydd.

Cawsom sesiynau difyr ac amrywiol dros ben ac mae rhagor i ddod cyn diwedd ein blwyddyn (sef Mehefin 2020). Mae croeso i ferched o unrhyw oed sy’n rhugl yn y Gymraeg neu’n dysgu’r iaith i ymuno â ni. Rydyn ni’n cyfarfod yn fisol ar yr 2il nos Iau o’r mis am 7:30 yr hwyr yn:
Neuadd Eglwys Bethesda, Cefn Road, Tŷ-du NP10 9AS
Beth am ymuno gyda ni ferched?