Search

Moderniaeth yng Nghasnewydd - Ystad y Gaer


Gan Adam Pearce


Pan yn ystyried enghreifftiau o bensaernïaeth neilltuol yng Nghasnewydd, tueddir i feddwl yn syth am nifer fach o adeiladau enwog ac amlwg: yr Eglwys Gadeiriol, y Ganolfan Ddinesig a’r Bont Gludo ac ati. Efallai bydd rhai yn meddwl yn hytrach am adeiladau sydd efallai ddim mor enwog na phoblogaidd, ond sydd ag iddynt pwysigrwydd hanesyddol neu esthetig nad yw o reidrwydd yn glir o’r olwg gyntaf, megis Pont Stryd George (y bont grog gyntaf o’i fath ym Mhrydain) neu’r sinema Odeon gynt. Bydd eraill efallai yn meddwl am yr argraff bensaernïol cyffredinol a roddir gan adeiladau Edwardaidd crand canol y ddinas.

Ond hoffwn heddiw dalu teyrnged i unigolyn nad yw ei enw na’i waith yn hynod o adnabyddus efallai, ond serch hynny’n mae’n bosib mae ef yw’r unigol a adawodd yr argraff fwyaf sylweddol a pharhaol ar bensaernïaeth a chynllun Casnewydd fel ag y mae hi heddiw. Enw’r gwr hwn oedd Johnson Blackett, a fu’n ddirprwy ac wedyn yn brif Bensaer Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Casnewydd rhwng 1925 a 1974.

Yn rhinwedd ei swydd gyda’r cyngor bu Blackett yn gyfrifol am ddylunio nifer fawr o adeiladau cyhoeddus a phrosiectau tai o fewn y ddinas. Yn ogystal â bod yn bensaer roedd Blackett hefyd yn gynlluniwr tref, ac felly bu’n gyfrifol nid yn unig am ddylunio adeiladau unigol o fewn y ddinas ond am berthynas yr adeiladau gyda’i gilydd a chyda gweddill y ddinas. Mae ei gyfraniadau mwyaf yn dyddio i’r cyfnod o ail-adeiladu yn dilyn yr ail ryfel byd, sef yr ystadau tai cyngor mawr yn St. Julian’s, Alway, Ringland a’r Gaer, yn ogystal â’r ysgolion ysgolion cynradd sy’n gysylltiedig a’r safleoedd hyn.

Mae gan bob un o’r ystadau hyn eu rhinweddau ond y gorau, a magnum opus Blackett, yw’r ystâd yn y Gaer, a gwblhawyd erbyn 1953. Er bod y rhan hon o’r ddinas yn cynnwys nifer fawr o dai ac adeiladau mewn ystod o arddulliau, Blackett oedd yn gyfrifol am y tai a’r fflatiau modernaidd yng nghalon yr ystâd o amgylch Sharkespeare Crescent, Dickens Drive a Byron Road, ynghyd a’r ysgol (Ysgol Gynradd y Gaer), o bosib ei adeilad unigol orau.

Roedd Blackett yn fodernydd di-ymddiheuriad ac mae nifer o agweddau o adeiladau’r ystâd sy’n nodweddiadol o bensaernïaeth fodernaidd, y mwyaf amlwg ohonynt y toeau fflat sydd i bob un o’r tai a’r fflatiau, a’r ffenestri enfawr trawiadol sy’n taflu golau ar dyllau grisiau’r fflatiau mwyaf. Fodd bynnag mae i’r cynlluniau rhai elfennau ymarferol sydd mor aml yn absennol mewn pensaernïaeth fodern. Er enghraifft, er eu bod yn ymddangos yn fflat, mae’r ongl cynnil i’r toeau sy’n rhwystro dŵr rhag bylllu, a briciau yn hytrach na choncrît yw’r prif ddeunydd adeiladu a ddefnyddiwyd yn adeiladau Blackett. Mae’r cymysgedd o frown, melyn a choch yn creu argraff twym, cyfforddus sy’n dra gwahanol i’r oerfel a awgrymir gan lawer o ddatblygiadau mewn concrît llwyd neu gwyn; mae’r briciau hefyd wedi heneiddio a gwrthsefyll y tywydd Cymreig yn llawer gwell na byddai concrît wedi gwneud (cymharwch yr ystâd yn Nyffryn sydd ugain mlynedd yn iau na’r Gaer, neu’r fflatiau newydd ar lannau’r Wysg sydd eisoes yn casglu alga).

Er mai llinellau syth ac onglau sgwâr – yn unol â’r traddodiad modernaidd – sydd i’r adeiladau unigol, un o nodweddion mwyaf traddodiadol yr ystâd yw’r ffordd y mae nifer fawr o’r tai wedi eu cyfuno i ffurfio terasau hirion sy’n dilyn amlinell crwn y llethrau serth. Mae’r rhain yn enwedig o drawiadol o’r awyr, fel y gwelir yn y llun yma a gymerwyd yn ystod cyfnod adeiladu’r ystâd:

Awgrymir gan rai bod y terasau hyn i fod i galw i gof terasau Fictorianaidd traddodiadol y cymoedd, ond i fi maen nhw’n awgrymu yn hytrach tonau’r môr, neu o bosib cromliniau araf y bryniau eu hunain. Pwy ddywedodd erioed bod rhaid i bensaernïaeth anwybyddu byd natur?

Hyd yn oed os nad ydw i wedi llwyddo i’ch perswadio bod gwerth pensaernïol i adeiladau Johnson Blackett – ac rwy’n gwerthfawrogi na fyddai’r adeiladau hyn o reidrwydd at ddant pawb – gad i ni ystyried llwyddiant fwyaf ystâd y Gaer, sef y synnwyr agored, gwyrdd sydd i’r lle. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i gynllun Blackett: sicrhaodd bod digonedd o le agored rhwng y tai (sy’n meddu ar gerddi cymharol fawr), y blociau fflatiau, yr heolydd â’r adeiladau eraill. Yn ffodus, mae’r cyngor wedi cynnal a chadw’r holl le gwyrdd yma’n dda, gan lwyddo i gynnal llawer o’r teimlad gwreiddiol y byddai’r ystâd wedi’i gynnig i’w trigolion. Drwy leoli cartrefi o gwahanol meintiau – fflatiau bach a mawr ochr yn ochr â tai teras a thai pâr – ochr yn ochr a’i gilydd, sicrhaodd Blackett na fyddai’r ystâd yn troi’n ghetto i un grŵp cymdeithasol yn unig. Pwysleisiwyd yr undod hwn drwy enwi pob stryd ar ôl awdur neu fardd – Shakespeare Crescent, Dickens Drive, Byron Road ac ati; gwnaeth yn debyg yn St. Julians gydag arlunwyr a wedyn gyda chyfansoddwyr yn Ringland (Er mai trueni mawr yw’r ffaith nad yw enw’r un awdur Cymreig, heb sôn am Gymraeg, yn ymddangos ar strydoedd y Gaer – rhywbeth i’w ystyried efallai wrth benodi enwau strydoedd newydd heddiw?). A phenderfyniad gorau oll Blackett oedd, gan fanteisio ar y safle serth, iddo sicrhau bod gan bob un o’r tai a’r fflatiau olygfeydd tuag at y môr.

Gellir ond dychmygu pa argraff byddai’r trigolion cyntaf wedi’i chael o symud o’r ddinas or-boblog i le o’r fath, gyda’i balconïau a’u holl dir agored. Dyma weledigaeth iwtopaidd yr 1950au ar ei fwyaf llwyddiannus, a gwrthgyferbyniad pendant i’r holl ystadau o’r cyfnod a fethodd yn gyfangwbl, gan arwain at ddirywiad dinesig a chymdeithasol yn eu tro. Does dim syndod i’r ystâd ennill clod a gwobr yn Festival of Britain 1951, gwobr a roddwyd i’r ystâd ei hunain yn ogystal â’r ysgol gynradd sydd ar ei chanol. Heb os, yr ysgol hon yw uchafbwynt pensaernïol Blackett (yr unig adeilad rhestredig o’i eiddo, hyd y gwn i) ac un o’r ysgolion gorau yng Nghymru a adeiladwyd ar ôl y rhyfel. Mae’r ysgol mewn siâp H, gyda dwy linell o ystafelloedd dosbarth yn syllu allan tua’r môr yn yr un ffordd â’r tai teras. Mae’r ystafelloedd wedi’u goleuo gan rhesi di-dor o ffenestri rhuban sylweddol sy’n drawiadol o’r tu allan a’r tu fewn (er fy mod yn deall ei bod yn oer iawn yn y gaeaf!). Godidog. Gallai datblygwyr tai heddiw – a fe wyddom oll bod llawn digon ohonynt yng Nghasnewydd! – ddysgu nifer o wersi gan edrych eto ar waith y dyn hwn, a fu’n gweithio’n daer i wneud ein dinas yn le gwell i fyw ynddo.

© 2023 by The Artifact. Proudly created with Wix.com

This site was designed with the
.com
website builder. Create your website today.
Start Now