Tybed faint ohonoch chi sydd wedi clywed sôn am y siop lyfrau Cymraeg gyntaf yng Nghasnewydd?
Cafodd y siop ei hagor yn y 1960au hwyr – adeg pan oedd llawer o siopau llyfrau Cymraeg eraill yn cael eu hagor ledled Cymru.
Lleoliad y siop oedd Courtybella Terrace, Pillgwenlly (ger y groesfan rheilffordd). Doedd hi ddim ar yr heol fawr ond ar ryw heol fach ddibwys mewn gwirionedd.
Fel dyn ifanc ar y pryd, doeddwn i ddim wedi clywed dim byd am y siop hon cyn i fi gerdded heibio hi ar hap a gweld arwydd yn ffenestr y siop yn dweud “Siaredir Cymraeg yma”.
Cochyn yn ei chwedegau oedd perchennog y siop. Dyn cwrtais, diymhongar, annwyl oedd ef a dros y blynyddoedd fe ddaethon ni'n ffrindiau. Fel dysgwr, roeddwn i’n mynychu’r siop yn aml iawn i brynu llyfrau a chylchgronau a chael ‘clonc’ hefyd.
Fel canlyniad, fe ddes i’n gyfarwydd iawn â thafodiaith Pen Llŷn ac y rhai o’u hymadroddion.
Yn anffodus, fe barodd y siop ddim yn hir – efallai tair blynedd. Welais i neb ar wahân i fi fy hyn yn mynd mewn i’r siop!

Dafydd Sheppard